Croeso i'm gwefan personol ...
Rydw i'n gweithio fel ymchwilydd ym maes iechyd cyhoeddus yng Nghanolfan DECIPHer, ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae DECIPHer yn Ganolfan Ragoriaeth Ymchwil Iechyd Cyhoeddus sy’n perthyn i UKCRC.
Mae fy ymchwil yn archwilio'r ffyrdd gorau i atal plant a phobl ifanc rhag camddefnyddio alcohol. Canolbwynt fy ngwaith ydy gwerthuso ymyriadau, yn enwedig y rhai sydd â'r nod o gryfhau sgiliau rhieni a pherthnasau teuluoedd, ac hefyd ymyriadau a leolir mewn ysgolion.
Ar hyn o bryd mae gen i ddau brif prosiect:
Mae gen i ddiddordeb mewn defnyddio cyfryngau cymdeithasol megis Twitter a blogiau er mwyn trafod fy ngwaith, a chreu cysylltiadau â phobl sydd a diddordebau cyffelyb i fi o fewn a thu hwnt y byd academaidd. Rydw i'n cydlynu grwp cefnogi cyfoedion i bobl sy'n ymwneud ag ysgrifennu academaidd o'r enw #acwri. Menter ar y cyd â chydweithwyr dros Brydain a Chanada yw hyn.
Dysgais i Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan (sydd bellach Y Drindod Dewi Sant). Er nad yw Cymraeg fy iaith gyntaf, mae croeso i chi gysylltu a fi drwy gyfrwng y Gymraeg, a rwy hefyd yn fodlon cyfrannu at raglenni teledu/radio Cymraeg eu hiaith.

- Hap-dreial wedi'i reoli o'r Rhaglen Cryfhau Teuluoedd
- Hap dreial wedi'i reoli archwiliadol o Raglen Kids, Adults Together